GLANHAU MASNACHOL
Pa fathau o adeiladau yr ydych yn eu glanhau?
Rydym yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o adeiladau busnes, o swyddfeydd cynllun agored i ysgolion, clybiau a siopau adwerthu. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion penodol.
Pa wasanaethau glanhau yr ydych yn eu cynnig?
Rydym yn cynnig gwasanaeth glanhau swyddfeydd ynghyd â gwasanaeth glanhau dwfn untro, yn ogystal â gwasanaethau partner ychwanegol, er enghraifft glanhau ffenestri, glanhau lloriau a charpedi, rheoli gwastraff, a hyd yn oed mân dasgau. Ein nod yw sicrhau bod pethau mor syml a didrafferth â phosibl i chi.
Beth yw manteision prynu gwasanaeth glanhau masnachol o'r tu allan?
Mae'n sicrhau y bydd eich swyddfa yn lle mwy hylan a dymunol i weithio ynddo ac i groesawu cwsmeriaid. Mae hefyd yn sicrhau bod eich gweithwyr yn hapus, yn frwdfrydig ac yn llai tebygol o gymryd absenoldeb salwch.
Beth y mae glanhau masnachol dwfn yn ei olygu?
Popeth y byddech yn ei ddisgwyl gan wasanaeth glanhau cyffredinol, yn ogystal â'r holl dasgau mawr ac annifyr hynny, er enghraifft o dan y dodrefn, ar ben y cypyrddau, a'r holl waith codi llwch.
Sut y gallaf ddarganfod rhagor?
Os oes gennych ddiddordeb yn ein gwasanaethau glanhau masnachol, ffoniwch ni neu anfonwch neges e-bost atom, neu llenwch ein ffurflen gyswllt. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â'r safle, heb unrhyw oblygiadau, er mwyn trafod eich gofynion.