EIN GLANHAWYR
Sut yr ydych yn dethol eich glanhawyr?
Gwyddom pa mor hollbwysig yw diogelwch. Mae ein glanhawyr yn cael eu gwirio gan y DBS, ac rydym yn gwirio eu geirdaon er mwyn sicrhau eu bod yn ddibynadwy a phroffesiynol, a'u bod yn rhannu ein gwerthoedd. Mae gan bob un o'n glanhawyr dan gontract y cymwysterau NVQ perthnasol, maent yn cario ID, maent wedi'u hyswirio, ac maent yn mynychu hyfforddiant yn rheolaidd.
A ydych yn monitro perfformiad y glanhawyr?
Ydyn, rydym yn cynnal archwiliadau ar hap er mwyn sicrhau bod ein glanhawyr yn bodloni'r safonau uchel y mae ein cleientiaid yn eu disgwyl gennym. Gan fod gennym bresenoldeb lleol, gallwn gyrraedd eich lleoliad yn brydlon os bydd problem yn codi.
Faint yr ydych yn ei dalu i'ch glanhawyr?
Rydym yn gwerthfawrogi ein glanhawyr, ac yn cydnabod nad yw eu rôl bob amser ymhlith y rolau mwyaf hudolus. Felly, rydym yn talu cyfradd gystadleuol i'n glanhawyr sy'n fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol, ac yn eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith.
A yw eich glanhawyr wedi'u hyswirio?
Ydynt, mae ein holl lanhawyr wedi'u hyswirio ar gyfer cyfnod cyfan y gwaith glanhau. Os bydd rhywbeth yn cael ei ddifrodi, tynnwch luniau a chysylltwch â ni i nodi'r manylion.
Pa iaith y mae eich glanhawyr yn ei siarad?
Mae ein holl lanhawyr yn gallu siarad Saesneg yn rhugl, ac mae rhai ohonynt yn gallu siarad Cymraeg hefyd. Os hoffech drafod eich gofynion ac archebu yn Gymraeg, cysylltwch â ni.
Hoffwn ymuno â thîm glanhau Glân. Sut y mae ymgeisio?
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan lanhawyr sy'n cyfleu gwerthoedd ein brand. I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, edrychwch ar ‘Ymuno â'n tîm’.