EICH GWAITH GLANHAU
A fydd angen i ni gyflenwi cynhyrchion neu offer glanhau?
Na fydd. Byddwn ni'n cyflenwi'r holl ddeunyddiau glanhau angenrheidiol. Fodd bynnag, os byddai'n well gennych ein bod yn defnyddio eich cynhyrchion penodol chi, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn hapus â'r gwaith glanhau?
Mae eich boddhad yn hynod o bwysig i ni, ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu gwasanaeth glanhau dibynadwy. Fodd bynnag, os na fydd unrhyw ran o'n gwasanaeth yn bodloni eich disgwyliadau, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr, Gafyn Stiff, cyn gynted â phosibl, a bydd ef yn delio â'r broblem yn bersonol.
Sut y gallaf roi adborth?
Rydym yn gwerthfawrogi'r berthynas sydd gennym â'n cleientiaid masnachol, ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw. Byddwn bob amser yn hapus ac yn ddiolchgar am y cyfle i drafod eich profiadau o'n gwasanaethau.
A gaf fi argymell Glân i sefydliadau eraill?
Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw atgyfeiriadau. Rhowch wybod i ni os byddwch yn ein hargymell, gan ei bod yn bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer ein cynllun atgyfeirio. Gallwch hefyd roi adolygiad ar ein tudalen My Business ar Google.
A all fy nghyflogwyr ddefnyddio gwasanaethau Glân?
Gallant. Yn ogystal â gwasanaethau glanhau masnachol, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth glanhau domestig dwfn. Gall y gwasanaeth hwn fod yn fuddiol iawn i gyflogwyr, a gall helpu i wella'r cydbwysedd rhwng eu bywyd a'u gwaith. Gallwch roi gwybod iddynt am ein gwasanaethau domestig trwy arddangos ein posteri a'n taflenni yn ardaloedd eich staff.