EICH GWAITH GLANHAU DWFN
Paratoi – Sut y gallaf baratoi ar gyfer y gwaith glanhau?
Gwnewch baned o de a dechreuwch gynllunio'r hyn yr ydych am ei wneud â'r holl amser na fydd yn rhaid i chi ei dreulion yn gwneud gwaith glanhau dwfn.
A oes angen i mi fod gartref yn ystod y gwaith glanhau?
Eich dewis chi yw hynny. Byddai o gymorth petai chi yno trwy gydol y gwaith glanhau cyntaf, er mwyn i chi allu dweud wrthym beth yw eich gofynion a gofyn unrhyw gwestiynau. Os ydych yn bwriadu bod adre, gallwch fod yn sicr y bydd ein glanhawyr yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch wrth weithio. Bydd angen i chi fod yn bresennol ar ddiwedd y gwaith glanhau er mwyn llofnodi a thalu'r glanhawyr.
A allwch ddarparu ar gyfer fy ngheisiadau penodol?
Mae pob darn o waith glanhau wedi'i deilwra i ddewis yr unigolyn. Rydym yn gwerthfawrogi bod pob unigolyn a phob tŷ yn wahanol.
A fydd angen i mi gyflenwi cynhyrchion neu offer glanhau?
Na fydd. Byddwn ni'n cyflenwi'r holl ddeunyddiau glanhau angenrheidiol. Fodd bynnag, os byddai'n well gennych ein bod yn defnyddio eich cynhyrchion penodol chi, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Beth yw gwarant Glân-Clean?
Yn syml, ni fydd ein glanhawyr yn gadael nes eich bod 100% yn hapus.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn hapus â'r gwaith glanhau?
Nid ydym yn hoffi i'n glanhawyr adael nes eich bod 100% yn hapus, ond os bydd yna fater na fyddwch yn teimlo y gallwch ei godi gyda nhw yn uniongyrchol, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, er mwyn i ni allu helpu i ddatrys y broblem. Os bydd hynny'n berthnasol, efallai yr hoffech dynnu lluniau i'w hanfon atom. Mae eich boddhad yn hynod o bwysig i ni, felly dywedwch wrthym ac fe wnawn ein gorau glas i ddod o hyd i ateb amserol.
Sut y gallaf roi adborth?
Diolch am ofyn. Rydym yn gwerthfawrogi adborth ein cleientiaid yn fawr, gan ei fod yn ein helpu i barhau i ddiwallu eich disgwyliadau, ac i ragori arnynt. Gallwch naill ai lenwi'r cerdyn adborth y bydd y tîm glanhau yn ei adael, a'i anfon atom yn y post, neu fynd ar-lein i lenwi arolwg byr.
A gaf i argymell Glân i'm ffrindiau a'm teulu?
Cewch, wrth gwrs. Daw nifer o'n cleientiaid atom trwy argymhellion ar dafod leferydd. Gallwch hefyd adael adolygiad ar ein tudalen Facebook neu Google.
Os byddwch yn ein hargymell i rywun, rhowch wybod i ni. Efallai bydd yna syrpréis yn aros i chi ar ôl eich sesiwn glanhau dwfn nesaf.
Beth yr ydych yn ei wneud â'm gwybodaeth bersonol, a sut yr ydych yn ei storio?
Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ar ein meddalwedd, i'w defnyddio gan dîm cymorth Glân a'ch glanhawyr yn unig. Ni fyddwn fyth yn gwerthu eich gwybodaeth i drydydd partïon.