ARCHEBU A THALU
Sut y gallaf archebu?
Llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein. Ar y llaw arall, gallwch gysylltu â ni trwy ffonio 02920 291000 neu anfon neges e-bost i info@Gl&ancleaningservices.cymru Byddwn yn cysylltu â chi i roi amcan bris ac i drefnu eich archeb.
Ar ba ddiwrnodau ac adegau y gallaf archebu gwaith glanhau dwfn?
Cyn belled bod gennym dîm glanhau ar gael, gallwch archebu ar unrhyw adeg neu ddiwrnod sy'n addas i chi.
A allaf archebu ar fyr rybudd?
Po fwyaf o rybudd a gawn, y gorau, ond os bydd gennym dîm glanhau ar gael, byddwn bob amser yn hapus i fodloni eich cais, ni waeth faint o rybudd a gawn.
Beth fydd y gost?
Mae ein prisiau yn gystadleuol ond yn amrywio yn ôl maint a manyleb eich cartref. Cysylltwch â ni i gael dyfynbris.
Sut y byddaf yn gwybod fy mod wedi archebu'n llwyddiannus?
Byddwn yn anfon neges e-bost atoch gyda manylion eich archeb, ynghyd â derbynneb ar gyfer eich blaendal.
Sut y gallaf wneud cais am wasanaethau ychwanegol neu newid fy archeb?
Rhowch alwad i ni neu anfonwch eich cais mewn neges e-bost. Po fwyaf o rybudd y byddwch yn ei roi, mwyaf tebygol ydyw y byddwn yn gallu helpu. Nodwch fod yn rhaid canslo gwaith o leiaf 24 awr ymlaen llaw er mwyn bod yn gymwys i gael ad-daliad.
A allaf newid neu ganslo fy archeb?
Os byddwch yn anfon neges e-bost atom neu'n ein ffonio i aildrefnu'r gwaith glanhau, a hynny 24 awr cyn yr amser dechrau a archebwyd, bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu. Yn anffodus, ni allwn brosesu ad-daliadau ar gyfer gwaith sy'n cael ei ganslo â llai na 24 awr o rybudd.
Beth yw'r opsiynau o ran talu?
Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd taliadau diogel trwy gerdyn debyd (Visa, MasterCard ac American Express) neu arian parod.
Os byddaf yn cael ad-daliad, i le y bydd yn mynd?
Bydd eich ad-daliad yn cael ei anfon i'r cyfrif a ddefnyddiwyd gennych i dalu. Byddwch yn ymwybodol y gallai eich banc gymryd ychydig o amser i brosesu eich ad-daliad.